Mae Discos for Grown Ups yn dychwelyd gyda pharti disgo llawn cerddoriaeth o'r 70au, yr 80au a'r 90au. Gwisgwch eich dillad pefriog am noson ddifyr o ddawnsio, gyda phobl o'r un oedran â chi, i'ch holl hoff ganeuon disgo o'r 70au, pop o'r 80au a dawns o'r 90au. Dawnsiwch o dan oleuadau a laserau anhygoel gyda dawnswyr llwyfan dawnus Discos for Grown Ups. Ffyn gloyw a losin 'retro' am ddim i bawb.
8 Chwefror
https://cy.brangwyn.co.uk/DiscosForGrownUps
17 Mawrth
Er mwyn dathlu 20 mlynedd ers rhyddhau ei llyfr a oedd ar frig y siartiau llyfrau ledled y byd, bydd Kate Mosse yn cyffroi cynulleidfaoedd unwaith eto gyda'i sioe un fenyw fythgofiadwy, Labyrinth Live: Unlocking the Secrets of the Labyrinth.
https://cy.brangwyn.co.uk/KateMosse
Symphonix Soundtracks 13_7_24
Mae Symphonix Orchestra 13_7_24 yn cyflwyno profiad cherddoriaeth Teledu a Ffilm fel erioed o'r blaen.
P'un a ydych chi'n gefnogwr o gerddoriaeth glasurol, traciau sain ffilm, neu ddim ond yn chwilio am brofiad adloniant unigryw, bydd Symphonix Soundtracks yn mynd â chi ar daith gerddorol trwy rai o'r traciau sain ffilm mwyaf eiconig erioed.
Mae hon yn sioe unigryw ac yn berfformiad cherddorol anhygoel na fyddwch chi eisiau ei golli!
https://cy.brangwyn.co.uk/SymphonixSoundtracks
Karl Jenkins
Penblwydd Hapus Sir Karl Jenkins
Peidiwch â cholli’r cyfle i glywed y perfformiad cyntaf erioed yn y DU o Stravaganza, concerto Syr Karl Jenkins i’r sacsoffon, gyda doniau dihafal Jess Gillam Jess Gillam a’r arweinydd Nil Venditti!
www.croesobaeabertawe.com/events/stravaganza-dydd-gwyl-dewi/
Voices of Swing
Voices of Swing
Down for the Count Concert Orchestra
3 Mai
Trawsnewidiwyd celfyddyd caneuon poblogaidd yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif gan gyfansoddwyr fel George Gershwin, Cole Porter, Hoagy Carmichael ac Irving Berlin, gan ddarparu’r deunydd a fyddai’n arwain artistiaid fel Frank Sinatra, Nat ‘King’ Cole, Ella Fitzgerald, Peggy Lee, Judy Garland a llawer mwy i enwogrwydd rhyngwladol.
www.brangwyn.co.uk/cy/events/voices-of-swing-down-for-the-count-play-the-great-american-songbook/